Rhan byrraf y daith i Ifan fydd heddiw, ond wrth deithio gyda defaid does dim un rhan am fod yn hawdd!
Beth Syn Digwydd
19:00 – FFERM PONT AR GAMDDWR – NOSON LAWEN DRADDODIADOL
Gwybodaeth Rhanbarthol
Wedi’i gefeillio â Plouvien yn Llydaw, mae gan Dregaron stori gyffrous o’i hanes fel tref enedigol y lleidr pen-ffordd Twm Sion Cati, i’r eliffant sydd, yn ôl rhai, wedi’i gladdu ar dir Gwesty’r Talbot! Mae’r dref erbyn hyn yn gartref i’r dylunydd gemwaith Celtaidd, Rhiannon Evans, a hefyd Huw a Rhys Evans, tad a mab sy’n hyfforddi ceffylau ar gyfer rasus trotian dros Brydain. Ond peidiwch a’u cymysgu nhw â’r Tenor enwog Huw Rhys-Evans, gafodd hefyd ei eni yma!