Neidio at y cynnwys

S4C

Yr Afon

Ifor ac Afon Ganga

Ifor ac Afon Ganga

Yn ôl y gred Hindŵaidd Afon Ganga yw afon fwyaf sanctaidd y byd. Yn ail ffilm y gyfres cawn weld sut mae'r bobl sydd yn ei thrysori hefyd yn ei pheryglu.

Bydd y cyflwynydd a'r bardd Ifor ap Glyn yn mynd â ni ar daith ryfeddol ar hyd Afon Ganga o'i tharddiad ym mynyddoedd yr Himalaya i ddinas fwyaf sanctaidd y wlad, Varanasi. Ar hyd y ffordd mae'n cwrdd â phobl sy'n dibynnu ar yr afon am eu bywoliaeth. Mae'r afon hon yn ei chyfanrwydd yn llifo dros 1500 o filltiroedd o Gangotri ar hyd gogledd India i ddelta Bengal cyn croesi i Bangladesh. Mae'n cynnal hanner poblogaeth India. Ond wrth ei dilyn gwelwn fod yr afon yn brwydro am ei heinioes ei hun.

Dyddiadur Ifor

Dydd Mercher 6 Mehefin

Ar ôl brecwasta mewn lle awyr agored ar lan yr afon, dyma gychwyn tua 11. Cyri tatws, chapati ac omlet i frecwast a phaned o de chai. Stopio i ffilmio criw o bererinion yn golchi dillad yn yr afon - nhwtha fymryn yn ddiamynadd isio cychwyn ar eu taith yn lle stwna hefo ni, chwara teg. Llawer o "faw pererin" yn crasu ar gerrig traeth yr afon, a'r tywod yn sgleinio gan fineralau. Gwelais löyn byw glas anferth.

Mwy »

Tu ôl i'r Llenni - Cyfweliad gydag Amanda Rees

Mae Amanda yn gynhyrchydd/cyfarwyddwr sydd â phrofiad helaeth ym maes cyd-gynyrchiadau rhyngwladol. Ar hyn o bryd, mae hi'n bennaeth ar brosiectau rhyngwladol gyda chwmni Green Bay Media. Ei phrosiect diweddaraf yw Rescuing the Past - rhaglen ddogfen ar gyfer Sianeli National Geographic Rhyngwladol, sy'n dilyn grŵp arloesol o beirianwyr sy'n defnyddio technoleg newydd i achub un o byramidiau hyna'r byd.

Ymhlith ei chynyrchiadau eraill mae Y Mynydd a Dyn ar gyfer S4C Rhyngwladol/France 5 a Doctoriaid Rhyfel ar gyfer S4C/Alliance Altantis/France 5.

Yr Afon

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales