Bethan ac Afon Yangtse
Mae Bethan Gwanas wedi teithio i bedwar ban byd ond yn y rhaglen hon mae'n ymweld â Tsieina am y tro cyntaf i weld un o ryfeddodau newydd y byd - Argae'r Tri Cheunant.
Mae'r awdur a'r darlledwr yn dilyn stori'r Argae - cynllun hydro-electrig mwya'r blaned. Bwriad yr argae hwn yw rheoli llif Afon Yangtse, afon hiraf Asia ac un o afonydd prysuraf a mwyaf peryglus y byd.
Mwy »
Ar hyd ei thaith, mae Bethan yn cyfarfod nifer o bobl sy'n teimlo effaith codi'r Argae enfawr, milltir-o-hyd. Mae'n bosib gweld y strwythur hwn o'r gofod, a dyma brosiect adeiladu mwyaf y wlad ers Wal Fawr Tsieina.
Mae gan yr argae ddau brif bwrpas. Mae'n lleihau'r llifogydd sydd wedi lladd dros 300,000 o bobl yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ar yr un pryd mae'n darparu pŵer a system drafnidiaeth fwy effeithiol, gan alluogi dinas Chongching ar ei glannau i dyfu'n gyflym.
Ond mae 'na bris i'w dalu. Mae'r dirwedd ar hyd 400 milltir o lannau'r afon wedi'i thrawsnewid yn llwyr. Boddwyd 13 dinas, 100 o drefi a 1000 o bentrefi, a bu'n rhaid ailgartrefu miloedd o deuluoedd.
Mae miloedd o erwau o dir ar gyfer tyfu reis - prif fwyd y wlad – wedi'u herydu'n enbyd. Mae'r llaid sy'n casglu tu ôl i'r argae hefyd yn cynyddu, gan godi lefel ddisgwyliedig y dŵr a bygwth mwy o lifogydd. Ar ben hynny, codwyd yr argae uwchben gwendid seismig a gallai daeargryn fawr beri llif trychinebus. Ac mae rhai o'r farn y gallai pwysau'r argae ei hun beri daeargryn.
Mae Bethan yn clywed hanes pobl sydd wedi elwa o'r datblygiad yn ogystal ag eraill sydd wedi colli eu cartrefi, eu bywoliaeth a'u ffordd o fyw. Un sydd wedi gwneud y gorau o'i sefyllfa yw Tan Sia Lan, sydd bellach yn rhedeg teithiau i dwristiaid ar hyd Afon Yangtse. Roedd hi'n un o'r bobl wledig gafodd eu hail-leoli er mwyn creu'r argae.
Yn Chongching mae Bethan yn ymweld â ffatri geir a motobeics Lifan, sy'n allforio i dros gant o wledydd. Mae'r perchennog, Yi Ming Xhan, sydd ymhlith 30 person cyfoethocaf y wlad, yn egluro sut mae'r argae wedi sicrhau cyflenwad trydan cyson i'r ffatri.
Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, mae Bethan yn cael croeso ar aelwyd dlawd Hu Xhang, un o'r dynion 'bang bang', sy'n ennill £4 y dydd yn gweithio fel porthor.
Er i'r argae wneud tipyn o argraff ar Bethan, mae hi'n dod i'r casgliad na fyddai hi'n bersonol wedi ei adeiladu. "Mae'n enghraifft o ddyn yn chwarae Duw ac yn ceisio rheoli natur. Mae'r argae wedi creu ynni glân a rhoi hwb i'r economi. Ond mae wedi esgor ar gynnydd masnachol na all yr afon ei gynnal," meddai.
« Llai
Tu ôl i'r Llenni - Cyfweliad gydag Amanda Rees
Mae Amanda yn gynhyrchydd/cyfarwyddwr sydd â phrofiad helaeth ym maes cyd-gynyrchiadau rhyngwladol. Ar hyn o bryd, mae hi'n bennaeth ar brosiectau rhyngwladol gyda chwmni Green Bay Media. Ei phrosiect diweddaraf yw Rescuing the Past - rhaglen ddogfen ar gyfer Sianeli National Geographic Rhyngwladol, sy'n dilyn grŵp arloesol o beirianwyr sy'n defnyddio technoleg newydd i achub un o byramidiau hyna'r byd.
Ymhlith ei chynyrchiadau eraill mae Y Mynydd a Dyn ar gyfer S4C Rhyngwladol/France 5 a Doctoriaid Rhyfel ar gyfer S4C/Alliance Altantis/France 5.