Aled ac Afon Nîl
Mae pyramidiau Giza a holl ogoniant gwareiddiad Yr Aifft wedi denu llawer i hwylio Afon Nîl - a'r darlledwr Aled Samuel yn eu plith. Ond ar gyfer y gyfres uchelgeisiol Yr Afon, mae Aled hefyd yn teithio ymlaen i Ethiopia, un o'r gwledydd sydd nawr yn herio hawl Yr Aifft dros Afon Nîl.
Mwy »
Yn y ffilm ddogfen mae cyflwynydd y cyfresi tai poblogaidd O4Wal ac Y Tŷ Cymreig yn dilyn llwybr y Nîl Las o'r Aifft i'w tharddiad ym mynydd-dir creigiog Ethiopia.
Mae'r rhaglen hon yn cynnig golygfeydd godidog o'r ddwy wlad, ac mae wedi'i saethu mewn Manylder Uwch. Tu hwnt i lonyddwch y tirlun mae Aled yn darganfod bod yr afon, sy'n rhedeg trwy ddeg o wledydd Affrica, yn cynhyrfu'r dyfroedd yn wleidyddol.
Meddai Aled Samuel: "Mae'r Eifftiaid wedi credu erioed mai nhw sydd biau'r afon a than yn ddiweddar, roedd hyn i bob pwrpas yn wir, ond mae hyn ar fin newid. Mae Ethiopia, gwlad sydd uwch lan yr afon, yn adeiladu argae a allai atal 40 y cant o'r dŵr rhag cyrraedd Yr Aifft ac mae'r ddwy ochr wedi bygwth rhyfel. Gyda'r dŵr bellach yn arf fwy pwerus na'r bom, rwy'n mynd ar daith i darddiad yr afon i geisio darganfod mwy am y peryg mawr sy'n llechu dan wyneb Afon Nîl."
Mae Afon Nîl wedi bod yn gysylltiedig â gwareiddiad Eifftaidd ers sawl mileniwm. A'r realiti yw bod dinasoedd, trefi a phentrefi'r Aifft yn dibynnu arni am ei ffynhonnell ddŵr - yn enwedig y brifddinas Cairo gyda'i phoblogaeth o 17 miliwn.
Mae Aled yn cwrdd â phobl yn Cairo ac yn Nyffryn Nîl sy'n dangos eu hangerdd a'u dibyniaeth ddofn ar yr afon mewn cyfnod pan fo sychder a gorboblogi yn gwaethygu.
Ers 1929, pan oedd Yr Aifft o dan reolaeth Brydeinig, bu cytundeb rhyngwladol mewn lle a oedd yn sicrhau na allai gwledydd eraill ar lannau'r Nîl Wen neu'r Nîl Las atal llif y dŵr i'r Aifft trwy gynlluniau rheoli dŵr.
Bu'r Aifft yn harneisio grym yr afon trwy gynlluniau creu trydan a chyflenwi dŵr ers y cytundeb hwnnw gyda chynlluniau fel Argae Azwan a Phrosiect Tosca ar Lyn Nasser.
Ond nawr, mae Ethiopia, ar y cyd â China, yn adeiladu argae a fydd yn cyflenwi 225 megawatt o drydan i'r grid ac â'r potensial o ddyfrhau tiroedd gogledd y wlad i gyd.
Dechreuwyd datblygu Argae Tekeze chwe blynedd yn ôl ac mae'n debyg o gael ei chwblhau o fewn y flwyddyn, ond mae'n dal yn achos tyndra rhwng Ethiopia a'r Aifft gan fod ganddi'r potensial o atal llif 40 y cant o'r dŵr i'r Aifft.
Ar ei daith fythgofiadwy i darddiad yr afon a'r argae, mae Aled yn cwrdd â ffermwyr a swyddog allweddol ar gynllun yr argae, ac yn helpu menywod cefn gwlad i gario dŵr. Mae'n cwrdd â mynach yn yr Eglwys Eifftaidd sy'n egluro nad yw Ethiopia yn ceisio bygwth yr un wlad. Mae'r mynach yn gredwr yn yr hen ddywediad bod "egni'r byd yn nyfroedd y Nîl - mae'n perthyn i bawb ac yn eiddo i neb!"
« Llai
Lluniau Tu ôl i'r Llenni
Lluniau gan Nia Dryhurst
Mwy o luniau Tu ôl i'r Llenni »