Iolo ac Afon Amazon
O'i ffynhonnell ym Mheriw i'w haber mawreddog ym Mrasil, mae Afon Amazon yn llifo dros bedair mil o filltiroedd ar draws cyfandir De America drwy fforest law fwya'r ddaear. Does dim un bont yn ei chroesi na'r un argae yn mynd ar ei thraws ac mae'n cario mwy o ddŵr nag unrhyw afon arall yn y byd. Mae hefyd yn gartref i fwy o rywogaethau o bysgod na holl Fôr yr Iwerydd.
Mwy »
Ond mae gan Iolo Williams le i gredu bod dyfodol un o afonydd mwyaf mawreddog y byd yn y fantol. Yn y rhaglen hon bydd y naturiaethwr yn trafod sut y mae datblygiadau masnachol y byd modern yn dinistrio'r fforestydd glaw sy'n amddiffyn yr afon ac yn gwthio ecoleg fregus yr ardal i'r eithaf.
Ar ei daith ar hyd ei glannau daw Iolo ar draws cyfoeth o fywyd gwyllt sy'n gynhenid i ardaloedd yr Amazon, fel y Caiman (math o grocodeil), y mwncïod a'r dolffiniaid dŵr croyw. Mae hefyd yn mwynhau siarad â'r bobl leol yn yr iaith frodorol, Portiwgaleg.
"Dwi wedi bod i'r Amazon sawl gwaith o'r blaen a dwi'n gwybod o brofiad ei bod gyda'r lle cyfoethoca' o safbwynt bywyd gwyllt," meddai Iolo Williams. "Ond ar y daith yma roeddwn ar drywydd amgenach na'r anifeiliaid; ro'n i ar drywydd yr afon ei hun a rhai o'r saith miliwn o bobl sy'n dibynnu arni.
"I'r bobl sydd wedi ymgartrefu ar ei glannau mae'r afon yn dal i reoli pob agwedd ar fywyd. Ond bellach mae amheuon na all Afon Amazon ddianc rhag dylanwadau drwg y byd modern."
Gyda thirfeddianwyr yn dinistrio bron i 1,200,000 o erwau'r fforestydd glaw cyfagos y flwyddyn er mwyn tyfu cnydau soia, mae ffordd o fyw nifer o gymunedau traddodiadol yr Amazon dan fygythiad. Mae'n fusnes ffyniannus gyda'r ffa soia yn cael ei allforio i Ewrop a'r UDA i fwydo'r anifeiliaid sy'n cyflenwi cig ar gyfer y diwydiant bwyd brys. Ac mae rhai o'r barwniaid soia yn barod i ddefnyddio triciau brwnt er mwyn cael gafael ar y tir, gydag unrhyw un sy'n sefyll yn eu ffordd yn wynebu baril gwn!
Mae cynhesu byd eang hefyd yn broblem. Yn 2005 wynebodd ardal o'r Amazon y sychder gwaethaf ers canrif. Mae gwyddonwyr yn beio digoedwigo wrth i ardal o faint chwe chae pêl-droed gael ei thorri bob munud. Mae'r tannau digoedwigo hefyd yn creu chwarter o holl nwyon tŷ gwydr y byd.
"Heddiw mae'r Afon, y bywyd gwyllt a'r bobl yn fwy gwantan nag erioed o'r blaen. Mae'r fforest law a'r Amazon yn hollol ddibynnol ar ei gilydd ac mae'r hyn sy'n effeithio ar un yn sicr o effeithio ar y llall. Am ba hyd y gall yr afon fawreddog yma barhau i lifo'n wyllt - pwy a ŵyr," ychwanega Iolo.
« Llai