Neidio at y cynnwys

S4C

Yr Afon

Cerys ac Afon Mississippi

Cerys ac Afon Mississippi

Blues, jazz, roc a rôl a gospel - dyna stori'r rhaglen gyntaf. Daeth Cerys i nabod rhannau o Afon Mississippi pan oedd hi'n byw yn Nashville, Tennessee. Ond dyma gyfle iddi ddeall mwy am bobl y Mississippi, a mwynhau harddwch yr afon ei hun.

Ifor ac Afon Ganga

Ifor ac Afon Ganga

Ifor ap Glyn sy'n teithio i India, ar drywydd Afon Ganga, ac i gyfarfod a rhai o'r miliynau o bobl sy'n ddibynnol arni am eu bywoliaeth. Mae'n amlwg i Ifor bod yna le i boeni am y dyfodol.

Bethan ac Afon Yangtse

Bethan ac Afon Yangtse

Bethan Gwanas sy'n teithio i Tsieina ar hyd Afon Yangtse i ymweld â'r rhyfeddod o argae sydd wedi dofi'r llif ac wedi trawsnewid bywydau'r bobl sy'n byw ar lannau'r afon.

Aled ac Afon Nîl

Aled ac Afon Nil

Ar daith o Cairo at darddiad Afon Nîl ble mae Ethiopia yn adeiladu argae, mae Aled Sam yn darganfod bod na dro wrth droed yn hanes yr afon.

Iolo ac Afon Amazon

Iolo ac Afon Amazon

Wrth ddilyn trywydd yr Amazon mae Iolo Williams yn edrych ar y datblygiadau masnachol sydd yn lladd y jyngle sy'n amddiffyn yr afon ac yn gofyn ydi dyfodol yr Amazon yn y fantol?

Mererid ac Afon Rhein

Mererid ac Afon Rhein

Mae'r prifardd a'r prif lenor Mererid Hopwood, sy'n arbenigwraig ar lenyddiaeth yr Almaen, yn ein tywys o geg yr afon yn yr Iseldiroedd hyd at y tarddle hwnnw mewn glasier bregus yn yr Alpau.

Yr Afon

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales