Llundain 2012 – Ffeithiau a Ffigyrau
- 1908
- 22 genedl
- 2,008 o athletwyr (37 benyw, 1,971 dyn)
- 110 o ddigwyddiadau
- 1948
- 59 cenedl
- 4,104 o athletwyr (390 benyw, 3,714 dyn)
- 136 o ddigwyddiadau
- 2012
- 205 cenedl
- 10,500 o athletwyr
- 300 o ddigwyddiadau
- Yn ystod haf 2012 bydd Llundain yn byrlymu gyda dyfodiad y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
- Bydd yr Olympiad Ddiwyllianol yn cyrraedd ei uchafbwynt gyda'r seremoni agoriadol ar 27 GOrffennaf.
- Bydd y seremoni agoriadol yn dechrau gŵyl sy'n para am 60 diwrnod – y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Maint y Gemau yn 2012
- 26 camp Olympaidd mewn 34 lleoliad gwahanol
- 20 camp Paralympaidd mewn 21 lleoliad gwahanol
- 10,500 o athletwyr Olympaidd a 4,200 o althletwyr Paralympaidd
- 20,000 o aelodau'r wasg a'r cyfryngau
- Dros 9 miliwn o docynnau
Y Gemau Olympaidd a Llundain
Yn 2012 bydd Llundain yn cynnal Gemau Olympaidd bythgofiadwy, gan dynnu ar etifeddiaeth Olympaidd balch y ddinas.
Fe wnaeth Llundain gynnal y Gemau Olympaidd yn 1908 a 1948.
1908
Yn 1908, Rhufain oedd fod i gynnal y Gemau Olympaidd, ond camodd Llundain i'r adwy ar fyr rhybudd pan ffrwydrodd llosgfynydd Vesuvius.
Nodweddion newydd yn 1908:
- Adeiladwyd y Stadiwm Olympaidd (White City) yn arbennig ar gyfer y Gemau Olympaidd.
- Fe wnaeth yr athletwyr orymdeithio o dan eu baneri cenedlaethol mewn seremoni agoriadol ar ddechrau'r Gemau.
- Gosodwyd pellter y Marathon i 42.195 cilomedr (26.2 milltir) – y pellter o Gastell Windsor i'r Bocs Brenhinol yn y Stadiwm Olympaidd. Dyma fu'r pellter swyddogol o Gemau 1924 ymlaen.
1948
Yn 1948, fe wnaeth Llundain gamu i'r adwy unwaith yn rhagor ar gyfer y Gemau cyntaf ers yr Ail Rhyfel Byd.
Nodweddion newydd yn 1948:
- Darlledwyd y Gemau ar y teledu ym Mhrydain.
- Cyflwynwyd blociau cychwyn ar gyfer rasys sbrintio.
- Sefydlwyd Rhaglen Wirfoddolwyr i helpu i gynnal y Gemau.