Mae'r ras wedi dechrau!
Bydd y gyfres ddogfen newydd hon yn dilyn gobeithion criw o Gymry ifanc dros gyfnod o dair blynedd wrth iddyn nhw frwydro i gyrraedd y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.
Llundain 2012 - Tair blynedd i fynd
Ymlaen â ni tuag at Gemau Olympaidd 2012.
Ddydd Llun 27 Gorffennaf 2009 oedd diwrnod 'Tair Blynedd i Fynd' tan y Seremoni Agoriadol yn 2012 gyda digwyddiadau ar y gweill ar hyd a lled Llundain i ddathlu'r dyddiad. Un o'r digwyddiadau pwysicaf oedd treialu'r trên Javelin. Mae'r trên yma'n cyrraedd cyflymder o 140 milltir yr awr ac fe fydd yn cludo hyd at 25,000 o ymwelwyr pob awr o orsaf St Pancras, yng nghanol Llundain, i Orsaf Ryngwladol Stratford yn ystod y Gemau Olympaidd. 6 munud 45 eiliad (15 eiliad yn gynt na'r disgwyl) gymerodd hi i'r trên gludo trefnwyr, athletwyr a'r wasg i ben y daith.
Rhai o'r pwysigion oedd yn teithio ar y trên oedd Gweinidog y Gemau Olympaidd, Tessa Jowell; Sebastian Coe a Maer Llundain, Boris Johnson. Roedd yna deimlad o gyffro wrth i'r gwesteion gamu oddi ar y trên a mynd am daith arbennig o gwmpas y Parc Olympaidd a Paraolympaidd.
Mae'r gwaith adeiladu yn cael ei gyflawni'n gynt na'r disgwyl ac mae nifer o'r safleoedd pwysig - Y Ganolfan Campau Dŵr, Y Ganolfan Ddarlledu Ryngwladol, Y Pentref Olympaidd a'r Felodrom - yn dod yn eu blaenau'n dda.
Mae Gemau 2012 gam yn nes ac mae athletwyr o Gymru a ledled y byd un cam yn agosach at wireddu eu breuddwydion.
