Aled Sion Davies
| Enw: | Aled Sion Davies |
|---|---|
| Camp: | Disgen; Tafliad Maen ('Shot-put') a gwaywffon |
| Clwb: | FDSW (Undeb Chwaraeon Anabledd Cymru) |
| Oedran: | 17 |
| Cartref: | Pen-y-Bont |
Proffil
Ar ôl nofio am 6 mlynedd gwelais hysbyseb yn y papur newydd am glwb nofio i'r anabl. Penderfynais i fynd i weld sut le oedd y clwb. Cwrddais i â llawer o bobl newydd gyda gwahanol mathau o anableddau yno. Yna cwrddais i â Nathan Stephens hefyd, sy'n bencampwr disgen, tafliad maen a gwaywffon – ac yn ysbrydoliaeth mawr i fi.
Sylweddolais i'n gyflym na fydden i byth yn serennu fel nofiwr. Fe welodd tad Nathan hyn hefyd, ac awgrymu fy mod i'n trio'r campau mae Nathan yn eu gwneud. Ar ôl pythefnos o ymarfer y campau newydd yma, fe wnaeth Undeb Chwaraeon Anabledd Cymru gynnig lle i fi yn ei academi.
Rydw i'n hoffi teithio'r byd a chwrdd â phobl gyda gwahanol fathau o anableddau sydd wedi dewis gwneud athletau. Rydw i'n hoffi ennill a dangos nad yw pobl gydag anableddau yn wahanol i bobl eraill.
Diweddariad
Dros y flwyddyn ddiwethaf dw i wedi parhau i gystadlu'n frwd.
Eleni cefais fy newis i gynrychioli tîm Prydain mewn Cystadleuaeth Ryngwladol yn Y Swistir. Er ei bod hi'n glawio llawer, fe wnes i fy ngorau glas a llwyddo i ennill medal arian yng nghystadleuaeth y ddisgen.
Rwy'n gobeithio defnyddio'r profiadau yma er mwyn cryfhau yn fwy a chyrraedd fy nod o gyflawni 'mhotensial yn Llundain 2012.
Uchelgais
Rydw i eisiau mynd â chwaraeon anabledd i'r lefel nesaf a thaflu yr un mor dda ag athletwyr sy'n cystadlu yn y Gemau Olympaidd. Rydw i eisiau cyrraedd y gemau yn 2012 a dwi'n gobeithio ennill medal. Rydw i eisiau torri Record Byd yn y ddisgen a'r tafliad maen yn y pen draw.
Mae'n cymryd llawer o ymroddiad achos mae rhaid rhoi lan amser gyda teulu a ffrindiau i weithio'n galed ac ymarfer yn galed. Mae'n rhaid rhoi 100% i ymarfer a chystadlu. Mae'n hefyd rhaid i chi fod wir eisiau bod yr athletwr orau yn y maes.
Cyrraedd Gemau 2012 byddai'r peth gorau yn y byd. Byddai'n gyfle i fi ddangos fy ngallu i'r byd a byddai cystadlu dros fy ngwlad yn gwneud fy nheulu, ffrindiau a Chymru oll yn falch ohona i.