Carys Parry
| Enw: | Carys Parry |
|---|---|
| Camp: | Athletau, Taflu'r Morthwyl |
| Clwb: | Rhondda |
| Oedran: | 27 |
| Cartref: | Rhondda |
Proffil
Dw i wedi mwynhau taflu'r morthwyl erioed, ers y tro cyntaf i mi roi cynnig ar y gamp. Y rhythm sy'n apelio ata i - dw i'n i'n teimlo bod y morthwyl yn fy ngwaed - mae fel dawnsio. Fe ddwedodd fy hyfforddwr wrtho i unwaith bod unrhyw un sy'n gallu taflu'r morthwyl yn gallu dawnsio hefyd.
Bellach, fi yw rhif un Cymru, rhif dau Prydain a rhif saith yn y Gymanwlad. Mae hynny wedi cymryd llawer o waith called ond mae wedi bod yn werth yr ymdrech. Dwi wedi gorfod aberthu llawer ond mae'r profiadau dw i wedi eu cael ym myd athletau wedi bod yn werthfawr.
Dwi'n mwynhau ymarfer er bod hynny ddim yn wir i bawb. Dwi'n mwynhau'r amser yn y cylch taflu, ar fy mhen fy hun, gyda fy meddyliau fy hun - mae'n brofiad ardderchog.
Uchelgais
Dw i wedi profi'r wefr o gystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Melbourne yn 2006. Roedd yn brofiad gwych ac roedd gwisgo'r fest goch a chystadlu ar lefel mor uchel yn gwireddu breuddwyd i mi. Rwy'n benderfynol o ailadrodd hynny yn Delhi flwyddyn nesa.
Fe fethais i'r cyfle i fynd i Beijing. Roeddwn i o fewn 40cilometr i'r pellter angenrheidiol a ro'n i mor siomedig, pwy fyddai ddim? Ond mae hynny wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol fyth, a dw i'n hyderus y bydda i yno'n cynrychioli Cwm Rhondda yn Llundain 2012.