Danielle Jones
| Enw: | Danielle Jones |
|---|---|
| Camp: | Pistol Aer/Awyr 10m |
| Clwb: | Caerfyrddin |
| Oedran: | 19 |
| Cartref: | Llanllwni |
Proffil
On i'n aelod o'r Clwb Marchogaeth ac roedd cystadleuaeth o'r enw 'tetrathlon' yn rhan ohono. Yn Tetrathlon ma' rhaid saethu, nofio, rhedeg cefn gwlad a marchogaeth ceffylau trawsgwlad. Un diwrnod pan oeddwn i'n cystadlu cefais fy ngweld yn saethu gan John Kelman a gofynnodd e i fi ymuno â'r clwb yng Nghaerfyrddin oherwydd roeddwn i'n saethu'n dda. Fe yw fy hyfforddwr bellach, a sa'i byth wedi edrych nôl!
Dwi'n hoff o'r canolbwyntio a'r hunan-reolaeth sydd eisiau i lwyddo yn y gamp. Rwy'n hoff iawn hefyd o gael y cyfle i deithio o gwmpas y byd, a chwrdd â phobl newydd.
Uchelgais
Rwy'n obeithiol iawn o gyrraedd Gemau'r Gymanwlad yn 2010, ond yr uchelgais fwyaf yw cystadlu yn Llundain yn y Gemau Olympaidd yn 2012.
Mae eisiau llawer o ymroddiad i gystadlu yn dda, a hefyd llawer o ysgogiad i gadw 'mlaen i wella a chadw 'mlaen i ymarfer. Hefyd dwi'n gorfod aberthu llawer oherwydd y cystadlu a'r hyfforddi, fel colli mas ar bethau gyda fy ffrindiau.