Dewi Griffiths
| Enw: | Dewi Griffiths |
|---|---|
| Camp: | Rhedwr Pellter Hir |
| Clwb: | Carmarthen Harriers |
| Oedran: | 18 |
| Cartref: | Llanfynydd |
Proffil
Dw i wedi mwynhau rhedeg ers pan oeddwn i'n ifanc -mae Mam yn dweud fy mod i wedi bod yn rhedeg erioed- o gwmpas y caeau ar y fferm ac ati. Mae'n od i feddwl fy mod i'n dal i ddefnyddio'r caeau i redeg.
Pan oeddwn i'n 11 ymunais i â chlwb rhedeg a dw i wedi bod yn rhedeg ac yn cystadlu byth ers hynny.
Y peth dwi'n mwynhau fwyaf am y gamp yw'r llwyddiant personol dwi'n cael wrth redeg a chystadlu. Does dim byd yn well nag ennill ras, mae'n deimlad anhygoel. Ond dw i hefyd yn mwynhau'r hunanddisgyblaeth sydd ei angen i barhau i redeg ar y lefel uchaf.
Erbyn hyn dw i wedi cael y fraint o gynrychioli Cymru nifer o weithiau ar y trac athletau ac mewn cystadlaethau traws gwlad. Mae cynrychioli Cymru yn anrhydedd mawr ac mae gwisgo fest goch Cymru a rhedeg dros fy ngwlad yn brofiad gwych.
Dw i hefyd wedi cynrychioli Prydain ac eleni fe es i i Bencampwriaethau Ieuenctid Ewrop yn Serbia lle orffennais i'n bedwerydd yn y ras 10 cilometr.
Uchelgais
Ar ôl sefydlu fy hun yn athletwr Ewropeaidd, dw i'n ysu am y cyfle i gystadlu ar y lefel uchaf - Gemau'r Gymanwlad fydd y cam nesa - ac ar ôl hynny - wel, y gystadleuaeth fawr yn Llundain.
Fy hyfforddwr yw Kevin Evans - fe oedd yn gyfrifol am hyfforddi Andres Jones ar gyfer Gemau Olympaidd Sydney - felly mae ganddo gryn dipyn o brofiad ar y lefel uchaf. Dwi'n benderfynol o fod yn y cyflwr gorau posibl erbyn gemau Llundain ac fe fyddai'n falch iawn o edrych yn ôl a meddwl fy mod i wedi profi fy hunan yng Ngemau Olympaidd 2012. Byddai'n dipyn o anrhydedd!