Georgia Davies
| Enw: | Georgia Davies |
|---|---|
| Camp: | Nofio |
| Clwb: | Carfan Perfformiad Abertawe/Carfan Ieunctid Cenedlaethol |
| Oedran: | 18 |
| Cartref: | Abertawe |
Proffil
Dechreuais i nofio pan oeddwn i'n 6 oed, pan es i i nofio gyda fy ffrind gorau yn ein clwb lleol. Nes i ddim edrych nôl.
Mae bod yn y dŵr yn teimlo'n hollol naturiol i mi – dwi'n methu dychmygu fy mywyd heb nofio.
Mae'r ymarfer, wrth gwrs, yn waith caled.–Mae'n rhaid gwneud 10 neu 11 sesiwn yr wythnos, sydd yn ymrwymiad enfawr. Ond dwi'n dwli arno -mae'n rhaid eich bod chi mewn gwirionedd. Beth arall fyddai'n eich perswadio chi i godi am 5.30 y bore?!
Ond mae'r holl aberthau yn werth chweil – dwi wedi cwrdd â phobl o bob cwr o'r byd ac wedi ymweld â gwledydd pell trwy nofio dros Gymru.
Uchelgais
Fel pob athletwr mewn unrhyw gamp, cyrraedd y Gemau Olympaidd yw'r nod eithaf, ac mae'r ffaith eu bod yn Llundain yn eu gwneud yn fwy arbennig fyth.
Dwi'n sylweddoli na fydd yn hawdd i ennill lle yng ngharfan Prydain. Dwi eisoes yn rhan o'r Ganolfan Hyfforddiant Ddwys yn Abertawe, ond dwi'n gwybod y bydd yn dal rhaid i mi roi popeth sy' gyda fi i sicrhau fy mod yn cyrraedd yr uchelgais eithaf.