Jac Jones
| Enw: | Jac Jones |
|---|---|
| Camp: | Jiwdo |
| Clwb: | Pontardawe |
| Oedran: | 17 |
| Cartref: | Llanelli |
Proffil
Mae jiwdo'n gofyn am ddisgyblaeth, mae' rhaid moesymgrymu a siglo llaw cyn gornest. Mae'n grefft syml ond mae rhaid dysgu llawer o bethau fel balchder, hyder, disgyblaeth a pharch tuag at eraill - a dyna pam dw i'n ei hoffi gymaint.
Dechreuais i pan oeddwn i'n 4 mlwydd oed a dw i wedi tyfu gyda'r gamp.
Wnes i ddim cymryd llawer o ddiddordeb mewn chwaraeon fel rygbi a phêl-droed. Jiwdo oedd yr unig beth i mi gan fy mod yn ei fwynhau gymaint.
Erbyn hyn fi yw rhif un Cymru yng nghategori o dan 60cilogram a dw i'n hynod o falch o hynny.
Dw i'n gobeithio bod pobl yn gallu fy nefnyddio i fel rhyw fath o role model. Dwi wedi llwyddo i wneud fy ngwaith ysgol, mae gen i ddiddordebau eraill a dw i hefyd wedi llwyddo ar y mat jiwdo. Dw i'n teimlo bod hynny yn ychwanegu llawer at fy nghymeriad.
Mae jiwdo wedi fy nysgu i fod yn garedig tuag at bobl eraill, beth bynnag yw eu cefndir. Dwi'n credu bod honno'n un o wersi pwysicaf bywyd ac mae'n rhaid i mi ddweud, allai ddim dychmygu bywyd heb jiwdo.
Uchelgais
Dw i wedi cynrychioli Cymru nifer o weithiau erbyn hyn, a does dim byd yn rhoi mwy o bleser i mi na rhoi siaced jiwdo Cymru ymlaen. Yn anffodus, fydd ddim cystadleuaeth jiwdo yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2010. Er bod hyn yn siom, mae hefyd yn ei gwneud hi'n haws canolbwyntio'n llwyr ar gyrraedd y lefelau uchaf yn barod am Lundain 2012.
Byddai cyrraedd y Gemau Olympaidd yn anrhydedd mawr, mawr iawn. Mae pawb yn mynd i ddweud hynny wrth gwrs ond dwi wedi bod yn ffan mawr o'r Gemau Olympaidd ers pan oeddwn yn fach ac mae'r ethos sydd gan y gemau yn arbennig iawn.