Megan ac Angharad Phillips
| Enw: | Megan ac Angharad Phillips |
|---|---|
| Camp: | Tennis Bwrdd |
| Clwb: | Y Morfa TTC a Halton TTC |
| Oedran: | 14 |
| Cartref: | Dinbych |
Proffil
Cawsom fwrdd tennis bwrdd fel anrheg Nadolig i chwarae hamdden, a wedyn penderfynon ni fynd i'r clwb lleol i ymarfer – ma' popeth wedi datblygu o hynny.
Erbyn hyn ma'r ddwy ohonon ni wedi sicrhau llefydd yn nhîm Cymru.
Mae'r ddwy ohonon ni'n mwynhau'r cystadlu a'r teithio sy'n gysylltiedig â gyrfa mewn tennis bwrdd yn fawr iawn – ma' chwarae'r gêm wedi mynd â ni led led y byd – o China i Skegness!
Ma' cael chwarae tennis bwrdd fel dwy chwaer yn arbennig – ma' fe'n meddwl bod partner ymarfer wastad ar gael, a ma' hi hefyd yn meddwl ein bod ni'n gallu dathlu llwyddiannau ein gilydd a llwyddo efo'n gilydd – er enghraifft, ennill y bencampwriaeth i barau o dan 18 dros Gymru pan oedden ni'n 12 oed.
Uchelgais
Mae'r ddwy ohonon ni'n obeithiol iawn o gyrraedd Gemau'r Gymanwlad yn 2010, ond yr uchelgais fwyaf yw cystadlu yn Llundain yn y Gemau Olympaidd yn 2012.
Byddai'n golygu bod yr holl waith a'r oriau rydyn ni wedi rhoi i fewn wedi talu ffordd a byddai'n anodd i roi'r hapusrwydd mewn geiriau!