Neidio at y cynnwys

S4C

Rhiannon Yates

Rhiannon Yates
Enw: Rhiannon Yates
Camp: Athletau, Naid Hir
Clwb: Casnewydd Harriers
Oedran: 18
Cartref: Gilfach, Bargoed

Proffil

Dwi wedi bod yn cymryd rhan mewn athletau ers pan oeddwn i ym mlwyddyn tri yn yr ysgol gynradd. Fy athrawes Mrs Bowen gyflwynodd fi i'r gamp ac fe ddechreuodd popeth o'r fan honno.

Pan es i i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni dechreuodd pethau fynd yn fwy cystadleuol. Dyna pryd ymunais i â'r clwb athletau pan oeddwn i'n un ar ddeg mlwydd oed.

Yn y dechrau, fe wnes i ddewis athletau gan fod fy ffrind i'n aelod o dîm yr ysgol, af fe wnes i ddewis y naid hir am ei bod yn ymddangos yn gamp hawdd ac roedd y plant hŷn fel petaent yn mwynhau eu hunain yn chwarae yn y tywod!

Yr hyn dw i'n hoffi fwyaf am y gamp ydy'r pleser o gystadlu a gweld fy ffrindiau.

Un peth arall am y naid hir yw'r ffaith eich bod chi'n cael tri chynnig i wneud yn dda. Mewn rasys dim ond un cyfle rydych chi'n cael.

Mae'n cymryd llawer o amser, ymarfer ac ymdrech i fod yn athletwraig dda. Os mai hynny rydych chi eisiau'i wneud yna mae rhaid i chi fod yn barod i aberthu.

Uchelgais

Fy uchelgais ydy cyrraedd Gemau'r Gymanwlad yn 2010 ac, wrth gwrs y Gemau Olympaidd yn 2012.

Dwi'n gwybod y bydd hi'n anodd, ond byddai'n golygu popeth i mi, felly'r cyfan alla i wneud yw ceisio fy ngorau glas a gobeithio y bydda i'n gallu cynrychioli Prydain yn 2012.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales