Rhys Williams
| Enw: | Rhys Williams |
|---|---|
| Camp: | 400m Dros y Clwydi |
| Clwb: | Caerdydd |
| Oedran: | 26 |
| Cartref: | Caerdydd |
Proffil
Roeddwn i wastad eisiau bod yn athletwr a dwi erioed wedi ystyried bod yn unrhyw beth arall. Mae lluniau gyda' ni gartref ohonof i'n cystadlu'n ifanc iawn. Roedd dad wedi rhedeg yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaeredin felly mae yna ryw syniad bod athletau 'yn y gwaed'.
Ond doeddwn i erioed eisiau gwneud athletau dim ond am yr hwyl. Dwi wastad wedi bod eisiau bod yn athletwr er mwyn bod y gorau gallwn i fod.
Dwi'n cymharu athletau i rywbeth fel paffio. Dwi eisiau bod y gorau a dwi'n fodlon brwydro am y fraint honno.
'The man killer' maen nhw'n galw'r 400m dros y clwydi - mae'n galed, yn galed iawn - a dyna pam does dim llawer o bobl yn cymryd at y gamp, ond dyna pam dwi'n mwynhau ei wneud gymaint.
Uchelgais
Cefais i anaf difrifol yn 2006 a dyma'r tymor cyntaf i mi fod yn ôl yn cystadlu. Dwi'n awyddus i brofi i bawb 'mod i yn ôl ac yn barod i ennill.
Ar hyn o bryd, dwi yn y tri uchaf yn Ewrop, ond dwi ddim eisiau bod yn y tri uchaf yn Ewrop, dw i eisiau bod yn tri uchaf yn y byd.
Dwi eisiau bod y gorau yn y byd a fyddai ddim yn rhoi'r gorau iddi nes i mi gyrraedd y nod hwnnw.
Dwi am wneud fy marc yn athletau Cymru ac yn hanes Cymru. Dwi eisiau bod yn ysbrydoliaeth i bawb ac fe fyddai cyrraedd Llundain 2012, a phrofi fy hunan ar y lefel uchaf, yn siŵr o gyflawni'r nod hwnnw.