Rob Parry
| Enw: | Rob Parry |
|---|---|
| Camp: | Nofio |
| Clwb: | Carfan Perfformiad Conwy/Carfan Ieunctid Cenedlaethol |
| Oedran: | 17 |
| Cartref: | Abergele |
Proffil
Dwi wastad wedi hoffi bod yn y dŵr a dwi wedi bod yn nofio ers on i'n ifanc iawn. Roedd cymryd rhan mewn cystadlaethau nofio yn opsiwn amlwg i fi.
Rwy'n hoffi gwthio fy hunan i'r eithaf a nofio yw un o'r unig gampau lle rydych chi ar ben eich hun; mae e fyny i chi neud yn dda. Mewn ras chi yn unig sydd yn erbyn y cloc. Mae'n gamp teg achos dydych chi ddim yn dibynnu ar rywun i'ch "darganfod" chi – rydych chi un ai yn ddigon cyflym neu ddim.
Dwi hefyd yn dioddef o 'asthma' – roeddwn i'n dioddef yn wael pan oeddwn i'n ifancach. Wnaeth nofio fy ngalluogi i i wella fy anadlu. Nofio yw'r gamp orau ar gyfer hyn.
Uchelgais
Dal y record byd yn fy null gorau (100m dull rhydd), ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd yn 2012 ac aur yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014. Byddai'n gwireddu breuddwyd cael clywed 'Hen Wlad Fy Nhadau' wrth i mi sefyll ar bodiwm yr enillwyr. Pa mor dda fyddai hynny?!!
Mae'n rhaid aberthu popeth ar gyfer ymarfer – yn y gampfa yn ogystal â'r pwll. Mae'n rhaid gosod targedau ar ddechrau pob tymor ac mae'n rhaid i'r nofio fod yn flaenoriaeth dros eich bywyd cymdeithasol. Mae'n rhaid canolbwyntio 100% ar eich amcanion 365 diwrnod o'r flwyddyn gan mai dim ond un cyfle rydych chi'n ei gael mewn chwaraeon.