Sara Lougher
| Enw: | Sara Lougher |
|---|---|
| Camp: | Nofio |
| Clwb: | Carfan Perfformiad Pen-y-bont ar Ogwr / Carfan Ieunctid Cenedlaethol |
| Oedran: | 17 |
| Cartref: | Pen-y-bont ar Ogwr |
Proffil
Penderfynais i ddechrau nofio yn gystadleuol ar ôl i fy nghyfnither ymuno â chlwb a sôn cymaint o hwyl oedd e. Felly gofynnais os gallen i ymuno a mwynheuais i'r sesiynau. Ar y pryd on i'n naw oed, ond i ddweud y gwir dwi wedi bod yn nofio ers i mi fod yn 6 mis oed – roedd Mam yn mynd â fi i wersi 'aqua baby'!!
Rydw i'n hoff iawn o llawer o'r agweddau sy'n gysylltiedig â nofio. Dwi wrth fy modd yn cystadlu a dwi'n meddwl fy mod i'n berson cystadleuol iawn, ond dwi'n caru'r ffaith fy mod i'n cwrdd â chymaint o ffrindiau newydd.
Uchelgais
Dwi wedi gwrieddu un o 'mreuddwydion yn barod – cystadlu dros Gymru yn Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad – ond fel pawb sy'n gysylltiedig gyda chwaraeon, dwi'n anelu am ogoniant Olympaidd yn 2012.
Fi'n deall yn llwyr y fath o ymdrech a'r gwaith sydd rhaid gwneud ar gyfer y fath uchelgais – ond dwi'n meddwl os dwi'n canolbwyntio, ffocysu a pharhau ar y llwybr dwi arno, wna i gyrraedd y gemau yn Llundain!