Sarah Connolly
| Enw: | Sarah Connolly |
|---|---|
| Camp: | Jiwdo |
| Clwb: | Maesteg |
| Oedran: | 20 |
| Cartref: | Maesteg/Bath |
Proffil
Pan wnes i ddechrau jiwdo, y peth roeddwn i'n hoffi fwyaf oedd gallu ymladd heb gael stŵr gan Mam a Dad! Ond, o ddifri, roeddwn i wrth fy modd gyda'r ffrindiau newydd wnes i wrth gymryd rhan yn y gamp.
Dechreuais i wneud jiwdo pan oeddwn i'n ddwy a hanner mlwydd oed. Dwi bellach yn ugain a dw i dal wrth fy modd gyda'r gamp.
Dw i'n aelod o'r clwb lleol ym Maesteg o dan arweinyddiaeth Kerry Pulvirenti. Fe sy wedi bod yn fy hyfforddi ers y dechrau. Mae'n wych nawr, ar ôl cyrraedd y lefel uchaf, mod i dal i allu hyfforddi efo Kerry. Dwedodd rhywun wrtho i unwaith i beidio byth ag anghofio'r hyfforddwr cyntaf - dwi heb a wna'i byth.
Erbyn hyn dw i'n astudio yng Nghaerfaddon ac yn cynrychioli'r brifysgol yn y gamp. Ond does dim byd gwell na dod adre a chael ymladd unwaith eto gyda'r un bobl dw i wastad wedi bod yn ymladd yn eu herbyn. Ond y peth gorau? Dyw Mam na Dad dal methu gweiddi arna i am ymladd.
Uchelgais
Dwi wedi bod yn mynychu'r un clwb am bron i ddeunaw mlynedd ac rwy'n gweld hyn fel tipyn o ymroddiad.
Dwi'n benderfynol o ddangos yr un ymroddiad er mwyn cyrraedd Gemau Olympaidd Llundain 2012.