Scott Turner
| Enw: | Scott Turner |
|---|---|
| Camp: | Rygbi Cadair Olwyn |
| Clwb: | Llantrisant Pirates |
| Oedran: | 29 |
| Cartref: | Llanhari |
Proffil
Dwi heb fod yn chwarae rygbi cadair olwyn yn hir ond fe alla'i ddweud fy mod i'n dwlu ar y gêm! Dechreuais i 5 mis yn ôl. Roeddwn i'n digwydd bod yn ymarfer yn y gampfa lan lofft yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant a gofynnodd un o'r staff i mi a oeddwn wedi gweld y tîm oedd yn ymarfer lawr llawr. Fe es i lawr, neidio i mewn i gadair olwyn, a chymryd at y gêm yn syth.
Fe ges i ddamwain yn y gwaith oedd yn golygu y byddai'n rhaid i mi fod mewn cadair olwyn am weddill fy mywyd. Roedd hynny'n galed iawn wrth gwrs ond roeddwn i'n benderfynol o'r dechrau mai fi fyddai'n rheoli'r gadair ac nid y gadair fyddai'n fy rheoli i. Pêl-fwrdwr (murderball) yw'r enw arall ar rygbi cadair olwyn ac mae'r ffaith fy mod i'n chwarae'r gêm yma'n dangos pa mor benderfynol ydw i.
Uchelgais
Dw wedi chwarae'r gêm ar lefel Brydeinig a dw i'n falch iawn o hynny. Mae Rygbi Cadair Olwyn Prydain fawr yn gyffrous ac mae'r dynion a'r merched sy'n cymryd rhan yn y sesiynau ymarfer yn griw da. Mae'n waith caled ac mae'n rhaid i ni fod yn barod i dreulio oriau'n ymarfer. Ond rydyn ni i gyd yn gwybod y gallen ni, trwy waith caled ac ymroddiad, fod yn cystadlu yn 2012. Dyna beth mae pawb eisiau, neb yn fwy na fi!