Zack Davies
| Enw: | Zack Davies |
|---|---|
| Camp: | Bocsio – 48kg |
| Clwb: | Cwmgors ABC |
| Oedran: | 16 |
| Cartref: | Gorslas |
Proffil
Roedd gwneud y penderfyniad i fod yn focsiwr yn un hawdd i mi mewn gwirionedd. Roedd fy nhad-cu yn focsiwr, a 'nhad a 'mrawd hefyd, felly roedd yn draddodiad teuluol mewn ffordd.
Ond doedd hi ddim yn mynd mor dda ar y dechrau. Wnes i ymuno â'r gampfa yn Rhydaman ond doeddwn i ddim yn datblygu llawer. Wnes i ystyried rhoi'r gorau iddi.
Bryd hynny, ymunais i â'r gampfa yng Nghwmgors a gyda chyfarwyddyd fy hyfforddwr Ronnie Morris, rydw i bellach wedi ennill sawl teitl Cymraeg a lle yn nhîm Cymru sy'n cael ei hyfforddi gan Tony Williams a chyn-focsiwr proffesiynol, Colin Jones.
Bocsio dros Gymru yw uchafbwynt fy ngyrfa mor belled yn bendant. Rwy'n teimlo'n falch iawn wrth gerdded allan i'r cylch yn gwisgo cit Cymru.
Uchelgais
Fy uchelgais i ers dechrau fel bachgen ifanc, yn debyg i bob bocsiwr arall mae'n siŵr, yw cyrraedd y Gemau Olympaidd. Y gystadleuaeth chwaraeon fwyaf yn y byd yw hi a byddai bocsio ynddi yn...wel... dwi'n methu meddwl am eiriau i'w ddisgrifio!
Mae'n anrhydedd cael fy hyfforddi gan bobl fel Colin Jones – mae e wedi bocsio yn y Gemau Olympaidd – a baswn i wrth fy modd yn dilyn yn ei gamau e.
Ar nodyn mwy personol, baswn wrth fy modd yn llwyddo yn y Gemau Olympaidd er mwyn fy nhad-cu. Bob tro dwi'n camu i'r cylch, mae 'na ran fach ohona i'n ymladd drosto fe. Mae pedair blynedd gen i i godi 'ngêm cyn Llundain – ac, i fod yn onest, dwi'n methu aros!