Neidio at y cynnwys

S4C

Trydydd Gemau Ieuenctid y Gymanwlad, Pune, India

www.cygpune2008.com

I'n grwp o athletwyr ifanc, y cam cyntaf ar eu llwybr i gyrraedd Gemau Olympaidd 2012 oedd Gemau Ieunctid y Gymanwlad, a gynhaliwyd ym mis Hydref 2008 yn ninas Pune, India.

Yn India fe ddaeth 1300 o gystadleuwyr o 71 wlad ynghyd i gystadlu mewn 9 camp dros gyfnod o chwech diwrnod.

hwn oedd y tro cyntaf i nifer o'r athletwyr o Gymrud gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth aml-gamp tebyg i'r hyn byddent yn debyg o'i phrofi yn Llundain 2012.

Roedd ein grŵp o athletwyr penderfynol yn rhan o dim Cymru a oedd yn cynnwys 37 o athletwyr a 18 o hyfforddwyr mewn saith camp – badminton, bocsio, saethu, nofio, tennis bwrdd, tennis a chodi pwysau.

Daethant o bob cwr o Gymru a bob un ohonyn nhw o dan 18 oed.

O'r 37 gafodd eu dethol, roedd 10 yn cystadlu yn y pwll nofio ac 8 yn y cylch bocsio, ac roedd gobeithion uchel iawn am lwyddiant i uniglolion yn y ddwy garfan yma.

Pune, India

Mae teithio i wledydd pell a phrofi diwyllianau gwahanol yn un o'r uchafbwyntiau o fod yn athletwr elitaidd. Ond ni allai unrhyw beth baratoi ein grŵp o athletwyr ifanc am yr hyn oedd yn eu disgwyl yn India.

Pune

Adnabyddir Pune fel 'Rhydychen y Dwyrain', oherwydd y nifer o brifysgolion sydd yno. Mae'r ddinas yn y bryniau tua 4 awr o Mumbai – mae'n rhan o dalaith Indiaidd Maharashtra ac ail ddinas fwyaf y dalaith.

Mae'n ddinas gyda phoblogaeth o 3,5m, gyda diwylliant ddeinamig a chymysgedd gyfoethog o amrywiaeth ethnig.

Ac mae 'na draffig. Llawer iawn o draffig.

Y Pentref Chwaraeon

Cynhaliwyd y Gemau yn y Ddinas Chwaraeon Shri Shiv Chatrapati, campws mawr wedi ei hadeiladu'n arbennig i gynnal y Gemau.

Fel gyda'r Gemau Olympaidd yn 2012, roedd disgwyl i'r athletwyr i gyd aros yn y Pentref Chwaraeon – aros fel tîm yn eu gwesty eu hunain – ac ymhen dim, mae'r Ddraig Goch yn cael ei harddangos!

Gemau

Tu Ôl i'r Llenni

Arweiniwyd y garfan gan Arlywydd CGCW, Anne Ellis, ac Arweinydd y Tîm, Chris Jenkins. Roedd hefyd gan Gymru feddyg profiadol, sef Gareth Jones, a ffisiotherapydd o'r safon uchaf, Nicki Phillips (roedd Nicki yn gofalu am dîm Prydain yng Ngemau Olympaidd Beijing).

physio

Uchafbwyntiau

Yn ystod y gystadleuaeth roedd sawl uchafbwynt…

Anodd bydd anghofio'r sŵn yn y Neuadd Badminton pan chwaraeodd tîm parau bechgyn Cymru yn erbyn yr India.

Yn y tennis bwrdd, perfformiodd y tîm yn arbennig o dda – llwyddodd Angharad Phillips o Ddinbych i gyrraedd 16 olaf y gystadleuaeth, ac yng nghystadleuaeth y bechgyn, llwyddodd Patrick Thomas i guro ail ffefryn y Bencampwriaeth.

angharad

Roedd safon y tennis yn uchel gyda Mat James yn mwynhau llwyddiant wrth gyrraedd yr 8 olaf.

Yn y cystadlaeuthau saethu gallai Cymru fod wedi ennill un neu ddwy fedal; yn y rowndiau cynnar gwelwyd nifer o'r Cymry mewn safleoedd addawaol, ond collwyd y cyfle i ennill medalau o drwch blewyn yn y rowndiau terfynol.

Profwyd llwyddiant ysgubol yn y Neuadd Focsio gyda llawn hanner y tîm yn ennill medal. Enillodd Daniel Chapman fedal aur yn y gystadleuaeth 48 cilogram ar ôl ennill rownd derfynol dynn – ei unig ornest na fu'n gorfod stopio'n gynnar.

Enillodd Zack Davies, y bocsiwr ieuengaf yn y tîm, fedal arian, gan colli yn y rownd derfynol i'r ffefryn, Nanoa Thockhom o India.

fight

Yn y pwll nofio yr enillodd Cymru y rhan fwyaf o'i medalau. Enillodd Jemma Lowe bedair medal, tair ohonynt mewn cystadleuthau unigol, gyda pob buddugoliaeth yn creu record gemau newydd.

jemma

Yn y ras gyfnewid 4 x 200m yn y nofio rhydd, curodd Cymru dîm Awstralia i ennill y rownd derfynol. Y tîm oedd Alys Thomas, Jazz Carlin, Jemma Lowe a Georgia Davies gyda Fern Davies yn nofio yn y rowndiau cynnar. Sefydlwyd record newydd i'r Gemau a chwalwyd record hŷn Cymru hefyd!

georgia-swim
sara-swim

Enillwyd medal arian gan dîm cyfnewid y bechgyn felly dychwelodd y tîm i gyd i Gymru gyda medal a gorffennodd Cymru yn ail yn y tabl medalau nofio.

Cyffredinol

Yn y pen draw, gorffennodd Cymru yn chweched gyda 5 medal aur, 5 arian a 6 efydd. Perfformiad rhyfeddol gan ystyried nifer y tîm.

Yn fwy pwysig, fodd bynnag, perfformiodd athletwyr Cymru yn arbennig o dda ym mhob camp.

Ac wrth gwrs, bydd eu profiad cyntaf o gystadlu mewn pencampwriaeth aml-gamp yn amhrisiadwy wrth i'r athletwyr baratoi a chamu'n fwy fwy agos at Lundain yn eu 'Ras i 2012'

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales