Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2011
Anna Sofija Pardanjac
Yn enedigol o Landrillo-yn-rhos mae Anna yn astudio Therapi Lleferydd ym Mhrifysgol UWIC, Caerdydd. Dechreuodd gael gwersi dawns yn dair blwydd oed ac mae hi bellach wedi cyrraedd y graddau uchaf yn Bale, Tap, a Modern. Mae hi wedi bod yn Clocsio am 10 mlynedd dan hyfforddiant gwych Meinir Siencyn, ac wedi cystadlu a bod yn llwyddiannus yn yr Urdd a'r Genedlaethol. Mae Anna yn cystadlu yn Ysgoloriaeth Bryn Terfel am y tro cyntaf. Yn ddiweddar mae Anna wedi cynnal gweithdy clocsio a pherfformio tra’n gwirfoddoli gyda’r Urdd ym Mhatagonia. Aeth i Palma gyda Dawnswyr Nantgarw, lle cipion nhw’r ail wobr yng Ngŵyl Dawnsio Gwerin y Byd. Mae Anna wedi bod yn ffodus iawn i berfformio ar lwyfan y London Palladium, ac ar long fordaith ym Môr y Canoldir. Byddai Anna yn hoffi cymryd arholiadau dysgu dawns er mwyn gallu gweithio fel Therapydd Lleferydd ac athrawes ddawns yn ei hamser rhydd.