Neidio at y cynnwys

S4C

Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2009

Anni Llŷn Parri

Anni Llŷn Parri

Enillydd yr Unawd 19-25 oed

Mae Anni Llŷn yn 21 mlwydd oed ac yn dod o Sarn, ger Pwllheli, ym Mhen Llŷn. Cafodd ei haddysgu yn Ysgol Gynradd Pont y Gof, Ysgol Uwchradd Botwnnog a Phrifysgol Caerdydd lle graddiodd mewn Cymraeg eleni. Mae hi nawr yn dilyn cwrs ôl-radd mewn Cymraeg gan arbenigo mewn ysgrifennu creadigol. Dyma'r tro cyntaf iddi gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Yn ei amser hamdden mae Anni'n mwynhau darllen, ysgrifennu a gwylio rygbi. Fel myfyrwraig sy'n astudio yng Nghaerdydd mae hi'n dilyn y Gleision, a thîm rygbi Cymru wrth gwrs.

Yn y gyngerdd fe fydd hi'n perfformio unawd operatig gan Mozart, detholiad o'r Nofel Hi yw fy Ffrind gan Bethan Gwanas, unawd clasurol wedi'i gyfansoddi gan Dilys Wyn Edwards a chân o'r sioe gerdd Jekyll a Hyde.

Ei thiwtoriaid yn y Dosbarthiadau Meistri oedd yr actores Beth Roberts a'r gantores Elin Manahan Thomas.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales