Neidio at y cynnwys

S4C

Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2009

Catrin Angharad Roberts

Catrin Angharad Roberts

Enillydd yr Alaw Werin

Mae Catrin, sy'n un ar hugain mlwydd oed, yn dod o bentref Llanbedrgoch yn Sir Fôn. Fe aeth hi i Ysgol Gynradd Llanbedrgoch ac Ysgol Uwchradd Llangefni. Mae hi erbyn hyn yn gweithio fel Swyddog Datblygu Cynorthwyol i'r Urdd ym Môn ac Eryri. Dyma'r tro cyntaf iddi geisio am Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Yn y gyngerdd bydd Catrin yn perfformio unawd werin, Mil Harddwch: unawd cerdd dant, Ble'r aeth y sêr gan Gwilym R. Jones, a chân o'r sioe gerdd, Sunset Boulevard, sydd wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan Sian Owen o Farianglas.

Ei thiwtoriaid yn y Dosbarthiadau Meistri oedd Mark Evans ac Owain Siôn Williams. Mae Catrin newydd dderbyn rôl arweinydd Côr Meibion. Mae hi hefyd yn aelod o Aelwyd yr Ynys ac yn mwynhau chwarae rygbi i dîm rygbi Merched Caernarfon.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales