Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2009
Cerian Mai Phillips
Enillydd y Ddawns Werin Unigol 15-25 oed
Mae Cerian yn un ar hugain mlwydd oed ac yn dod o Fryn Iwan, Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei haddysgu yn Ysgol Gynradd Trelech ac Ysgol Uwchradd Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin cyn dilyn cwrs addysg gorfforol yn UWIC, Caerdydd. Graddiodd ar ddechrau'r haf ac mae hi nawr yn dilyn cwrs hyfforddiant dysgu addysg gorfforol yng Nghaerdydd.
Yn y gyngerdd fe fydd hi'n perfformio tair dawns. Mae'r gyntaf yn ddawns werin draddodiadol, yr ail yn ddawns glocsen sy'n portreadu bywyd Brenhines Gwenllian ac mae'r drydedd yn ddawns fodern sy'n cyfuno elfennau o hip-hop, Lladin a chlocsen.
Yn ei hamser hamdden mae Cerian yn mwynhau chwarae pêl-rwyd, dawnsio a chymdeithasu gyda'i ffrindiau.