Neidio at y cynnwys

S4C

Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2009

Elliw Mai Hughes

Elliw Mai

Enillydd yr Unawd Cerdd dant 19-25 oed

Mae Elliw Mai yn un ar hugain mlwydd oed ac yn dod o Riwlas ger Bangor yng Ngwynedd. Roedd hi'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Rhiwlas ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen ym Methesda cyn dilyn cwrs gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd lle graddiodd dros yr haf. Nawr mae hi wedi dechrau cwrs ôl-radd mewn Darlledu a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyma'r trydydd tro i Elliw gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Yn y gyngerdd fe fydd hi'n canu dwy gân cerdd dant, un gân werin a chân o'r sioe gerdd, Ffawd.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales