Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2011
Glain Dafydd
Wedi ei magu ym mhentref Pentir ger Bangor, mae Glain wedi hen arfer â pherfformio a chystadlu, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae eisoes wedi ennill Tlws y Telynor, Ysgoloriaeth Simms yr Urdd a'r Rhuban Glas offerynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau'r Cymoedd y llynedd. Mae'n astudio ym mhrifysgol Ecole Normale de Musique de Paris ar hyn o bryd, yn cael ei hyfforddi gan y delynores ryngwladol, Isabelle Perrin.