Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2009
Hanna Hopwood
Enillydd y llefaru unigol 19-25 oed
Mae Hanna'n ugain mlwydd oed ac yn dod o Langynnwr ger Caerfyrddin. Mae hi ym mlwyddyn olaf ei chwrs gradd mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyma'r tro cyntaf iddi geisio am yr Ysgoloriaeth.
Yn yr Ysgoloriaeth fe fydd hi'n cyflwyno cerddi Pwllderi gan Dewi Emrys a Preseli gan Waldo Williams; detholiad o'r nofel O! Tyn y gorchudd gan Angharad Price, ac mi fydd hi'n chwarae darn Song Without Words gan Mendelhsson ar ei soddgrwth (cello). Ei thiwtoriaid yn y dosbarthiadau meistri oedd Rhian Potter a Beth Roberts.
Yn ei hamser hamdden mae Hanna'n mwynhau chwarae'r piano a soddgrwth, darllen ac ysgrifennu. Mae hi hefyd yn canu gyda thri chôr yng Nghaerdydd - Côr Waun Dyfal, Côrdydd a Chôr Merched Cantata.