Neidio at y cynnwys

S4C

Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2011

Huw Ynyr Evans

Huw Ynyr Evans

Mab fferm o Ryd-y-main ger Dolgellau yw Huw sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yn dilyn cwrs gradd BMus mewn Cerdd a Chymraeg. Yn gystadleuydd brwd mewn Eisteddfodau lleol a chenedlaethol, mae Huw wedi profi llwyddiannau cyson yn Eisteddfod yr Urdd, y Genedlaethol, cystadlaethau'r Ffermwyr Ifanc a'r Ŵyl Gerdd Dant. Mae Huw wedi perfformio fel unawdydd gwadd gyda Chôr Godre'r Aran, Band yr Oakeley ac mewn cynyrchiadau ysgol.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales