Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2009
Jocelyn Freeman
Enillydd yr Unawd Offerynnol 19-25 oed
Mae Jocelyn yn dair ar hugain mlwydd oed ac yn dod o Treleddid Fawr ger Tŷ Ddewi. Cafodd ei haddysgu yn Ysgol Dewi Sant, Tŷ Ddewi, cyn ennill gradd mewn perfformio yn Academi Brenhinol Cerddoriaeth yn Llundain. Mae hi nawr yn astudio cwrs ôl-radd yn yr Academi. Dyma'r tro cyntaf iddi gystadlu am yr Ysgoloriaeth.
Yn y gyngerdd fe fydd Jocelyn yn chwarae darn gan Poulenc, Novelettes, a Phreliwd Rachmaninov mewn G leiaf. Rona Jones oedd ei thiwtor yn y Dosbarthiadau Meistri.
Yn ei amser hamdden mae Jocelyn yn mwynhau bwyd, gwin, teithio a gweld ei ffrindiau.