Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2009
Lisa Marged
Enillydd y Cyflwyniad Theatrig Unigol 19-25 oed
Mae Lisa Marged yn ddwy ar hugain mlwydd oed ac yn dod o Nantycaws ger Caerfyrddin. Roedd hi'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa cyn iddi astudio yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae hi hefyd wedi gweithio ar ddrama gyfnod, Pentalar, i S4C.
Yn y gyngerdd bydd Lisa'n perfformio dwy fonolog ddramatig a chân o'r sioe gerdd, Sound of Music. Y monologau fydd Troi'r Cloc yn Ôl gan Nia Wyn Roberts a detholiad o Tŷ Bernarda Alba gan Lorca sydd wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg gan Mererid Hopwood. Ei thiwtoriaid yn y dosbarthiadau meistri oedd Mark Evans a Beth Roberts.
Yn ei hamser hamdden mae Lisa'n mwynhau chwarae'r piano a chyfansoddi, ac mae hi hefyd yn hyfforddi mewn ysgol berfformio i bobl ifanc, Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi. Mae hi'n gariad i'w chyd-gystadleuydd, Gwydion Rhys.