Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2011
Siân Crisp
Daw Siân o Nebo yn Nyffryn Nantlle, ac mae â'i bryd ar berfformio yn y West End ers iddi fod yn saith oed. Mae'n gobeithio cael ei derbyn i'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain eleni. Mae wedi profi llwyddiant ar lwyfannau yng Nghymru ac wedi cael cyfleoedd i ddatblygu ei doniau a'i phrofiadau dros y ffin. Perfformiodd mewn cyngerdd mawreddog gyda Charlotte Church, ac mae hefyd wedi canu deuawd gyda Michael Ball yn yr Hammersmith Apollo yn Llundain. Bu hefyd yn dirprwyo dros y cymeriad Ginny Weasley yn y ffilm Harry Potter and the Deathly Hallows (part 2).