Neidio at y cynnwys

S4C

Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2009

Talent ifanc ar ei gorau yn Ysgoloriaeth Bryn Terfel

Bydd wyth o brif enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abertawe a'r Fro 2011 yn ymgiprys am yr Ysgoloriaeth eleni, sy'n werth £4,000. Darlledir yr holl gyffro yn fyw o Stiwdio'r Ddraig, Pencoed, nos Sul ar S4C, gyda Nia Roberts ac Ifan Jones Evans yn cyflwyno.

Cyn hynny, ar nos Sadwrn, mi fyddwn ni'n cael cyfle i ddod i adnabod y cystadleuwyr yn well mewn rhaglen arbennig fydd yn dilyn y paratoadau ar gyfer y noson fawr, yn cynnwys y gweithdai gyda'r arbenigwyr fydd yn mentora'r cystadleuwyr.

Mae'r cystadleuwyr eleni yn dod o Landrillo-yn-rhos, Llandysul, Y Bontfaen, Pentir ger Bangor, Rhyd-y-main, Pencader, Nebo ger Caernarfon, a Chaerdydd.

Yr wyth fydd yn mynd amdani yw Siân Crisp (enillydd Unawd o Sioe Gerdd 19-25 oed), Glain Dafydd (Unawd Offerynnol 19-25 oed), Rhian Davies (Llefaru Unigol 19-25 oed), Huw Ynyr Evans (Unawd Cerdd Dant 19-25 oed), Steffan Jones (Unawd 19-25 oed), Elen Morgan (Cyflwyniad Theatrig Unigol 19-25 oed), Anna Pardanjac (Dawns Werin Unigol i ferched dan 25 oed), ac Ellen Williams (Cyflwyno Alaw Werin Unigol 19-25 oed).

Aelodau'r panel beirniaid fydd y tenor, Rhys Meirion; yr actorion Emyr Wyn a Rhodri Miles; y delynores Meinir Heulyn; yr arbenigwraig canu gwerin, Nia Clwyd; a'r arbenigwr dawns, Mansel Phillips.

Meddai Rhys Meirion, "Dyma tro'r cyntaf i mi fod yn un o feirniaid yr Ysgoloriaeth a dwi'n edrych ymlaen at y profiad yn fawr iawn. Dwi'n ei hystyried hi'n anrhydedd cael bod yn rhan o'r gystadleuaeth bwysig hon sydd wedi hen ennill ei phlwy ac sy'n ennyn parch cenedlaethol.

"Mae'n bwysig bod y bobl ifanc yn trin y gystadleuaeth fel cyngerdd. Mi fyddwn ni'n chwilio am berfformiad fydd yn ein hargyhoeddi, yn chwilio am rywun fydd yn cyffwrdd y dychymyg ac yn dangos potensial."

Mae grŵp mentoriaid y gystadleuaeth yr un mor brofiadol. Y rhai fydd yn cynnig cyngor gwerthfawr i'r cystadleuwyr fydd y cantorion Paul Carey Jones, Aled Hall, John Owen Jones, ac Wynne Evans; y telynor Ieuan Jones, y cyfarwyddwr theatr a theledu, Elen Bowman; yr actor Ifan Huw Dafydd a'r ddawnswraig Lowri Walton.

Meddai Bryn Terfel, "Mae'n bleser mawr gennyf fod yn gysylltiedig â'r Ysgoloriaeth hon, gan wybod bod yr Urdd yn parhau i ffynnu ac ehangu a rhoi llwyfan i bobl ifanc Cymru feithrin a hyrwyddo eu doniau amrywiol drwy gyfrwng ystod eang o weithgareddau cyffrous ac arloesol."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales