Neidio at y cynnwys

S4C
  • Facebook
  • Twitter

Nos Lun, 25 Mehefin, 8.25

Mae Ifan Jones Evans a Shân Cothi’n wynebu her hanesyddol newydd ar gyfer cyfres Y Sipsiwn wrth iddyn nhw ddilyn ôl-traed y Sipsiwn Romani yng Nghymru mewn carafan a cheffyl.

Bydd y daith yn dechrau ar Fehefin 25 o Wersyll yr Urdd, Llangrannog, ac ar hyd y daith, bydd y tîm yn ymweld ag Aberteifi, Castell Newydd Emlyn, Crymych, Trefdraeth ac Abergwaun, cyn cyrraedd pen y daith yn Nhafarn Sinc, Rosebush.

Bydd digwyddiadau hanesyddol arbennig yn cael eu cynnal ar gyfer y trigolion lleol mewn amryw o leoliadau gyda’r nos wrth i ni ddysgu mwy am ffyrdd y Sipsiwn Romani o fyw.

Dilynwch ni arlein, ar y daith ac yn fyw ar S4C o 25 Mehefin.

Ifan a Shan