| Ymweld â Thŷ Duw Mae Cristnogaeth a’i hadeiladau wedi chwarae rhan bwysig yn hanes Cymru, gan ddylanwadu ar gymdeithas y Cymry dros y canrifoedd. O’r eglwysi mwyaf crand i’r capeli mwyaf plaen a syml, mae addoldai wedi bod yn ganolog i ffurfio golwg trefi a phentrefi Cymreig. Yn y rhifyn hwn o’r Tŷ Cymreig edrychodd Aled a Greg ar y stori y tu-ôl i rai o’r tai a gysylltwyd â’r Eglwys a’r capel, gan ddarganfod pethau rhyfeddol y tu-mewn iddynt. Mae capel Maesyronnen ger Y Gelli yn enghraifft ddiymhongar ond hardd o gapel cynnar yr Anghydffurfwyr. Wedi’i greu allan o hen ffermdy a oedd â beudy ynghlwm wrth ei ochr (fel gyda thŷ hir traddodiadol Cymreig), maes o law fe newidiwyd y beudy’n gapel, ac fe ddaeth y tŷ’n gartref i’r gofalwr. Mae ysbryd y Piwritaniaid yn para’n gryf oddi fewn i’r capel, ac mae’r ffermdy sy’n gysylltiedig o hyd yn fwthyn hyfryd. Nid oes unrhyw sôn am afradlonedd fan yma, ond mae symlrwydd y cynllun yn hyfryd, ac mae’r ffaith bod hwn yn un o’r capeli cynharaf sydd wedi goroesi yng Nghymru yn gwneud yr ymweliad yn un gwerth chweil. Mae tŷ arall yn y rhaglen yn deillio o’r 17eg Ganrif, ond ni allai fod yn fwy o wrthgyferbyniad â Maesyronnen. Ni chewch chi dŷ mwy atyniadol na ficerdy Aberriw, tŷ â ffrâm dderw a gafodd ei adeiladu nôl ym 1616. Mae hwn yn drysor cenedlaethol sydd wedi bod yn denu ffotograffwyr i dynnu lluniau o’r tu-allan ers i’r camera gael ei ddyfeisio. Meddai Greg, “Roeddwn i wedi dychmygu y byddai trawstiau derw isel drwy’r tŷ, â lle tân enfawr ac efallai paneli derw ar hyd y waliau. Ond mewn gwrthgyferbyniad â’r fframwaith derw ar y tu-allan, cewch steil chwaethus, ffurfiol Sioraidd oddi mewn. Dyma dŷ sy’n dangos y gorau o gynllunio Cymreig o ddwy ganrif wahanol iawn, ond eto maen nhw’n dod at ei gilydd yn chwaethus.” Mae dau dŷ arall a welir yn y rhaglen yn adlewyrchu agweddau gwahanol iawn i bensaernïaeth grefyddol. Mae mans a thŷ capel Llanuwchllyn yn adeilad pwysig mewn hanes Anghydffurfiaeth, gan iddo fod yn gartref i Michael D Jones: mae steil y bensaernïaeth fan hyn yn geidwadol. Ar y llaw arall, mae cyn gaplandy’r Pabyddion ym Machynlleth wedi’i gynllunio i fod yr un mwyaf crand yn y dref. Cewch yma deils lliw gemwaith, drychau, llefydd tân gothig a waliau sydd wedi’u paentio mewn lliwiau llachar. |
|
|||||||||||||||


