Alex Jones sy'n mynd ar daith bersonol i ddarganfod mwy am hanes yr iaith Gymraeg. Yn ôl yn Rhydaman mae'n darganfod beth oedd effaith y Chwyldro Diwydiannol ar yr iaith. Yn 1911 roedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ond erbyn 1951 roedd yr iaith ar y dibyn. Beth ddigwyddodd' Bydd yn darganfod mwy am yr ymdrechion arwrol i achub yr iaith, a rôl hanfodol ysgolion Cymraeg yn ei dyfodol. Rhaglen sy'n dathlu'r Gymraeg, Cymreictod a dros 1500 o flynyddoedd o hanes.
Cyfres newydd gyda Francesca Sciarrillo a Joe Healy, cyn enillwyr Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn bwrw golwg dros y sîn greadigol ifanc yng Nghymru. Yn y bennod yma byddwn yn blasu gwinoedd Cymreig, dysgu am bensaerniaeth ac am brosiectau cymunedol yn Abertawe cyn treulio amser gyda'r comedïwr Leila Navabi.
Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi Scott Quinnell yn mynd ar hyd a lled Cymru yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth gael llond ei fol o hwyl. Yr wythnos hon mae'n rhoi cynnig ar arlunio byw, Cartio ac yn cael gwers arwyddo Makaton.
Rhaid i Darren gydymffurfio â thag cyrffyw rhwng 7pm a 7am a phrofion cyffuriau ar hap er mwyn osgoi cael ei anfon yn ôl i'r carchar. Mae gan Chloe hanes gwael o ddod i'w hapwyntiadau ac mae hi mewn perygl o gael ei gyrru'r llys eto. Nerys a Jo ydy'r Swyddogion Gwasanaeth Prawf sy'n gorfod rheoli ymddygiad y ddau yn y gymuned er mwyn ceisio'u hatal rhag troseddu eto, a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.