Gwneud yn siŵr bod y gwasanaethau yn cydymffurfio â'r gofynion rheoleiddio perthnasol, gan gynnwys Cod Darlledu Ofcom
Ystyried barn y gynulleidfa am raglenni S4C
Rhoi sêl bendith i strategaeth, cyllideb flynyddol a chynlluniau ariannol tymor hir S4C
Goruchwylio, cymeradwyo a chraffu ar reolaeth briodol S4C
Gweithredu fel corff cyhoeddus
Gweithredu fel rheoleiddiwr ar nifer cyfyngedig o faterion penodol yn ymwneud â gwasanaethau S4C ar y we
Paratoi adroddiadau blynyddol a chyfrifon
Penodi Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd.
Dyw'r Bwrdd ddim yn ymwneud ag unrhyw benderfyniadau dydd i ddydd, fel penderfyniadau am gomisiynu neu benderfyniadau golygyddol. Mae'r drefn yma wedi bodol ers 1982.
Mae'n sicrhau fod y Bwrdd yn cadw hyd braich oddi wrth benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan swyddogion S4C, yn arbennig felly, ynglŷn â chynnwys rhaglenni'r Sianel.
Rheolau Sefydlog y Bwrdd Unedol
Cymeradwywyd: 01 Ebrill 2022 (Adolygwyd: Mawrth 2024; Adolygiad nesaf: Mawrth 2027)