S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Lle i gael help a chyngor

Dyma restr o elusennau i ti ddod o hyd i cyngor a chymorth brys - nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Childline

Childline

Cyngor, gwybodaeth a help ar gael yn Gymraeg

Gwefan Childline
Meic Cymru

Meic Cymru

Meic ydy'r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc yng Nghymru

Gwefan Meic
Mind Cymru

Mind Cymru

Ni yw Mind Cymru. Rydyn ni yma am gefnogaeth, parch ac i frwydro dros eich iechyd meddwl.

Gwefan Mind Cymru
Prosiect 13

Prosiect 13

Mae colli rhywun agos yn ifanc yn anodd, drwy profiad ein hun fe greuwyd Prosiect 13, cymuned ar-lein sy'n medru helpu bobl ifanc i ddelio gyda galar a cholled.

Gwefan Prosiect 13
Young Minds

Young Minds

Dwyt ti ddim ar ben dy hun, sut bynnag wyt ti'n teimlo nawr, mi fydd pethau'n gwella

Gwefan Young Minds
Meddwl.org

Meddwl.org

Mae'r wefan hon yn lle i gael cefnogaeth, gwybodaeth a phrofiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg

Gwefan Meddwl.org

Beth i'w wneud os wyt ti'n poeni ar ôl gwylio'r newyddion.

Mae Newyddion Ni yn rhoi gwybodaeth bwysig am straeon newyddion, ond mae'n bosib y bydd rhai pethau y byddi di'n eu clywed yn codi ofn neu'n gwneud i ti boeni.

Dyma ychydig o awgrymiadau beth alli di wneud os wyt ti'n teimlo'n drist am unrhywbeth rwyt ti wedi ei weld, ei glywed neu ei ddarllen.

Os wyt ti'n poeni ar ôl gwylio'r newyddion, mae'n bwysig dy fod di'n gwybod ei bod hi'n iawn cael teimladau o'r fath.

Cer i drafod y stori efo dy rieni neu oedolyn arall rwyt ti'n ei drystio.

Weithiau mae pethau'n digwydd sy'n golygu ein bod ni'n poeni neu'n teimlo'n drist.

Mae'n bwysig cofio nad ydi pethau trist yn digwydd yn aml iawn.

Ond beth allwn ni wneud pan mae newyddion yn gwneud i ni deimlo'n drist?

​Siarada efo rhywun

Mae'n bwysig siarad efo oedolyn rwyt ti'n ei drystio ynddo os wyt ti'n poeni am unrhywbeth. Mae'n bwysig rhannu dy deimladau gyda rhywun.

Mae'n normal i deimlo'n drist

Weithiau mae'r hyn sydd yn y newyddion yn gallu gwneud i ti boeni. Mae'n bwysig cofio bod teimlo'n drist neu'n grac am bethau ofnadwy sy'n digwydd yn y byd yn hollol normal. Nid ti fydd yr unig berson fydd yn teimlo felly. Mae oedolion hefyd yn teimlo'n drist.

Gwna bethau sy'n gwneud i ti deimlo'n hapus

Tria fynd am dro efo dy deulu.

Mae gwneud pethau sy'n dy wneud di'n hapus yn gallu gwneud i ti deimlo'n well.

Gwylia dy hoff ffilm, cer am dro neu cer i ddarllen dy hoff lyfr.

Os wyt ti'n darllen stori drist yn y newyddion, cer i ddarllen stori hapus cyn mynd i'r gwely.

Os wyt ti'n cael trafferth cysgu neu'n cael hunllefau, mae'n bwysig siarad efo oedolyn am hynny hefyd.

Dyma rai pethau alli di wneud os wyt ti'n poeni am bethau cyn cysgu:

Cofia am y pethau sy'n dy wneud di'n hapus a meddylia amdanyn nhw wrth i ti fynd i'r gwely.

Rho bethau neis o amgylch dy wely – efallai llun hapus sy'n gwneud i ti wenu – fel dy fod di'n edrych arnyn nhw cyn mynd i gysgu.

Darllena dy hoff lyfr.

Os wyt ti'n cael hunllef, cofia siarad am y peth neu cer i dynnu llun.

Cadwa bethau sy'n gwneud i ti deimlo'n saff fel hen dedi!

Cofia – dydi pethau ofnadwy ddim yn digwydd yn aml

Er bod pobl yn siarad am bethau sydd ar y newyddion, mae'n anhebygol iawn y bydd digwyddiadau o'r fath yn effeithio arnat ti a dy deulu.

Y peth pwysicaf ydi os wyt ti'n teimlo'n drist, cofia rannu dy deimladau efo rhywun arall.

Siarada efo oedolyn am unrhywbeth sy'n dy boeni di. Mi fydd hynny'n dy helpu di i ddeall beth sy'n dy boeni di, ac yn dy helpu i deimlo'n well.


Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?