S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Ffeithiol

Ar gael nawr

  • Ni yw'r Cymry

    Ni yw'r Cymry

    Bydd saith o Gymry o gefndiroedd gwahanol yn rhannu tŷ ac yn trafod y pynciau sydd yn ei heffeithio nhw. Mi fydd yr iaith Gymraeg yn dod dan sylw wrth i'r grwp gwestiynu os ydy ni'n gwneud digon o ymdrech i ddefnyddio'r Gymraeg. Mi fydda nhw hefyd yn gofyn os ydy Cymru yn rhy woke, ac yn trafod defnydd o ragenwau a'r ddadl a ganslo y gan Delilah.

  • Cais Quinnell

    Cais Quinnell

    Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi Scott Quinnell yn mynd ar hyd a lled Cymru yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth gael llond ei fol o hwyl. Yr wythnos hon mae'n ymweld â Zip Fforest, yn Tiwbio Afon ac yn rhoi cynnig ar Gerfio Iâ.

  • Y Llinell Las

    Y Llinell Las

    O'r trefi prysur i'r pentrefi tawel, dyma weld yn union sut beth ydy gweithio i Heddlu Gogledd Cymru. Portread cwbl onest a llawn i waith unedau arbenigol wrth iddyn nhw weithio i'n cadw ni a'n cymunedau'n saff.

  • Sain Ffagan Cyfres 2

    Sain Ffagan Cyfres 2

    Mae Sain Ffagan yn ddatgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae'r garddwyr yn dysgu sut i ddefnyddio'r planhigion maen nhw wedi'u tyfu i liwio gwlân. Cawn gip olwg tu fewn i un o adeiladau prysuraf yr Amgueddfa, y siop losin ac mae'r gwaith adeiladu ar du allan Gwesty'r Vulcan yn dod i ben.

  • Cysgu o Gwmpas

    Cysgu o Gwmpas

    Amser i Beti a Huw ddod a'u taith i ben, a lle gwell i wneud hynny nag yng ngwesty'r Albion, Aberteifi. Wedi ei leoli ar lan y Teifi, bydd y ddau yn ymuno a llongwr lleol am fordaith fach, cyn mentro nol i'r aber am noson o chwerthin a pizza.

  • Ty Am Ddim

    Ty Am Ddim

    I Abertawe awn am y rhaglen olaf i dy smart llawn potensial arbwys parc Cwmdoncyn. Mae'n na gryn dipyn o waith i'w wneud a'r ddau sy'n adnewyddu yn weddol dibrofiad. Oes elw i'w wneud os mae'r ddau yn gaddo'r gwaith i adeiladwyr'

  • Ar Brawf

    Ar Brawf

    Mae Bradley'n ceisio aros yn sobor a gorffen ei oriau gwaith di-dâl er mwyn cwblhau ei gyfnod Ar Brawf. A hithau wedi stopio yfed ers bron i flwyddyn, mae cyfnod Tiffany Ar Brawf ar fîn dod i ben. Jo a Lynne ydy'r Swyddogion sy'n ceisio'u hatal rhag troseddu eto, a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.

  • Mwy o Ffeithiol

    Mwy o Ffeithiol

    Cliciwch isod i weld mwy o raglenni Ffeithiol S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?