Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi Scott Quinnell yn mynd ar hyd a lled Cymru yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth gael llond ei fol o hwyl. Yr wythnos hon mae'n ymweld â Zip Fforest, yn Tiwbio Afon ac yn rhoi cynnig ar Gerfio Iâ.
Mae Bradley'n ceisio aros yn sobor a gorffen ei oriau gwaith di-dâl er mwyn cwblhau ei gyfnod Ar Brawf. A hithau wedi stopio yfed ers bron i flwyddyn, mae cyfnod Tiffany Ar Brawf ar fîn dod i ben. Jo a Lynne ydy'r Swyddogion sy'n ceisio'u hatal rhag troseddu eto, a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.
Aled Samuel a Mandy Watkins sy'n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i ymweld â gwahanol fathau o gartrefi chwaethus a diddorol. Yn y rhaglen hon byddwn ni'n ymweld â Neuadd Fawr sydd wedi ei thrawsnewid yn gartref gogoneddus yn Rhiwabon, cartref sydd a phalet du a gwyn yn Llanfairpwll, a thŷ Fictoraidd llawn lliw yn Llanegwad.
Alex Jones sy'n mynd ar daith bersonol i ddarganfod mwy am hanes yr iaith Gymraeg. Yn ôl yn Rhydaman mae'n darganfod beth oedd effaith y Chwyldro Diwydiannol ar yr iaith. Yn 1911 roedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ond erbyn 1951 roedd yr iaith ar y dibyn. Beth ddigwyddodd' Bydd yn darganfod mwy am yr ymdrechion arwrol i achub yr iaith, a rôl hanfodol ysgolion Cymraeg yn ei dyfodol. Rhaglen sy'n dathlu'r Gymraeg, Cymreictod a dros 1500 o flynyddoedd o hanes.
Cyfres newydd gyda Francesca Sciarrillo a Joe Healy, cyn enillwyr Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn bwrw golwg dros y sîn greadigol ifanc yng Nghymru. Yn y bennod yma byddwn yn blasu gwinoedd Cymreig, dysgu am bensaerniaeth ac am brosiectau cymunedol yn Abertawe cyn treulio amser gyda'r comedïwr Leila Navabi.