Cysylltiadau
Llyfrgell S4C
CYFFREDINOL
Oriau Agor
9:00 - 5:15 o ddydd Llun i ddydd Gwener
Lleoliad & Cyfeiriad
S4C, Parc Ty Glas, Llanishen, Caerdydd, CF14 5DU
CYFLEU RHAGLENNI / TAPIAU I S4C
Dylid cyfleu:
- 1 x Master Darlledu (fformat Digi Beta)
- 2 x DVD (1 x i'r Comisiynydd, 1 x gyda BITC i'r Llyfrgell).
Cyfleu Tapiau yn ystod oriau gwaith (courier / post / â llaw)
Dylid cyfleu tapiau i ystafell bost S4C a chyfeirio pob pecyn yn glir at sylw'r "LLYFRGELL".
Mae croeso i chi ffonio'r Llyfrgell (029 20741209) i gadarnhau fod y tâp/tapiau ar ei/eu ffordd a gellir gadael rhif ffôn ac enw cyswllt os hoffech dderbyn cadarnhad fod y Llyfrgell wedi eu derbyn yn ddiogel.
Cyfleu Tapiau ar ôl oriau swyddfa (courier / â llaw)
Os ydych yn cyfleu rhaglen ar gyfer darllediad y noson honno dylid hysbysu'r llyfrgell yn ystod y dydd o'r amser yr amcangyfrifir y bydd y tâp yn cyrraedd S4C ac i gadarnhau trefniadau a gadael manylion cyswllt. Dylid cadw mewn cysylltiad â staff darlledu S4C tu allan i oriau swyddfa (a chyfeirio'r tâp at sylw "MCR" a nodi'n glir fod y pecyn yn cynnwys deunydd darlledu gan gynnwys y teitl a'r amser a dyddiad darlledu.)
Mae'n bosib gadael tapiau yng ngofal Swyddog Diogelwch S4C y tu allan i oriau swyddfa. Dylid cyfeirio'r tapiau at sylw'r "LLYFRGELL".
Gwybodaeth gyffredinol am dapiau master ar ôl iddynt gyrraedd S4C
Neilltuir rhif tâp S4C i masters a chofnodir y rhif yma yn y system cyfrifiadurol a ddefnyddir yma, sef BSM, sy'n galluogi adrannau eraill i weld unrhyw wybodaeth berthnasol yn gysylltiedig â'r rhaglen a'r cynhyrchiad e.e dyddiadau cyfleu, manylion cynnwys o'r PAC, a'r " liquidated damages".
Rhoddir adolygiad technegol llawn ynghyd â phrawf PSE [HD Gordon] i raglenni sy’n cael eu cyfleu i S4C fel rhan o’r broses o lwytho rhaglenni i’r syrfyr ar gyfer y broses darlledu. Mewn achosion lle nad yw tapiau yn cydymffurfio ag anghenion technegol S4C fe'u dychwelir i'r cwmni cynhyrchu gwreiddiol i'w cywiro.
- Cyfleu rhaglenni S4C – Epilepsy ffoto sensitif
- Canllawiau Cydnabyddiaethau i Gloi
- Gofynion Technegol
Cysylltiadau
Jen Pappas
- Pennaeth Rheoli Cynnwys
- Tel: 029 2074 1431
Anwen Taylor
- Llyfrgellydd Darlledu
- Tel: 029 2074 1209
lly// hide from spam bots //frgell-sc@s4c.co.uk